Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 15 Ebrill 2024

Amser: 13.30 - 14.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13867


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Alun Davies AS

Samuel Kurtz AS

Carolyn Thomas AS

Tystion:

 

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor

Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies ac Adam Price. Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas, a oedd yn dirprwyo ar ran Huw Irranca-Davies.

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(6)466 – Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI4>

<AI5>

3.2   SL(6)470 – Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.3   SL(6)473 – Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes

</AI7>

<AI8>

4.1   SL(6)461 – Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI8>

<AI9>

5       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI9>

<AI10>

5.1   Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn perthynas â chyfarfod y canlynol – Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol.

</AI10>

<AI11>

5.2   Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol etc.) 2024 Rheoliadau 2024

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI11>

<AI12>

5.3   Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI12>

<AI13>

6       Papurau i'w nodi

</AI13>

<AI14>

6.1   Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Datganoli plismona

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

</AI14>

<AI15>

6.2   Gohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes: Adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes.

</AI15>

<AI16>

6.3   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

</AI16>

<AI17>

6.4   Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol, at Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi: Craffu ar Fframweithiau Cyffredin

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol, at Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷr Arglwyddi.

</AI17>

<AI18>

6.5   Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-2025

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid, a chytunodd yr Aelodau i drafod ymateb drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI18>

<AI19>

6.6   Gohebiaeth gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi: Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷr Arglwyddi.

</AI19>

<AI20>

6.7   Datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diwygiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

</AI20>

<AI21>

6.8   Gohebiaeth yn ymwneud â chanslo pumed cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Senedd yr Alban, a’r Pwyllgor hwn, at Gyd-Gadeiryddion Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE.

</AI21>

<AI22>

6.9   Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhentwyr (Diwygio)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

</AI22>

<AI23>

6.10 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet.

</AI23>

<AI24>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI24>

<AI25>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod ei gyfarfod nesaf.

</AI25>

<AI26>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

</AI26>

<AI27>

10    Ymchwiliad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Llywodraethu'r Undeb: Ymgynghori, Cydweithio a Chydsyniad Deddfwriaethol – Trafod y cyflwyniad drafft

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem hon tan ei gyfarfod nesaf.

</AI27>

<AI28>

11    Blaenragalen waith

Trafododd y Pwyllgor y broses o flaengynllunio gwaith, a chytunodd yr Aelodau i drafod Blaenraglen Waith mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI28>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>